Cyflwyniad
1. Diben y papur hwn yw nodi tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Faes Awyr Caerdydd.
2. Mae Maes Awyr Caerdydd yn borth hanfodol i Gymru ar gyfer busnes, twristiaid a theithwyr cyffredinol fel ei gilydd. Mae'n hanfodol ar gyfer datblygiad economaidd Cymru fod gennym gysylltedd rhyngwladol cryf i ac o Gymru yn ogystal â drws agored croesawus ar gyfer twristiaeth.
3. Ym mis Mawrth 2013 fe wnaethom ni (Llywodraeth Cymru) brynu'r maes awyr i sicrhau ei ddyfodol. Roedd ein penderfyniad i gaffael asedau a gweithrediadau'r maes awyr am bris oedd oddeutu £52 miliwn o fewn yr ystod o werthoedd a oedd yn dderbyniol i ni ac a oedd yn cael eu cefnogi gan y cyngor gwerth-am-arian a gawsom.
4. Ers 2013, mae ffigyrau gan yr Awdurdod Hedfan Sifil yn dangos bod niferoedd teithwyr yn y maes awyr wedi cynyddu o dros 5% ac maent yn parhau i gynyddu.
5. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu'r maes awyr fel darn pwysig o seilwaith economaidd yng Nghymru a datblygu gwasanaethau o ansawdd uchel i deithwyr.
6. Gweithredir y maes awyr ar hyd braich ar sail fasnachol gan Cardiff International Airport Ltd (CIAL). Mae CIAL yn gyfrifol am holl weithgareddau'r maes awyr, gan gynnwys gweithredu, datblygu llwybrau a gwella cyfleusterau.
7. Mae gan Fwrdd CIAL, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Rowe-Beddoe ac yn cynnwys 5 Cyfarwyddwr Anweithredol a 4 Cyfarwyddwr Gweithredol, y sgiliau a'r profiad priodol i gefnogi datblygiad Maes Awyr Caerdydd.
Cynlluniau Llywodraeth Cymru a Blaenoriaethau ar gyfer y maes awyr
8. Mae'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer y maes awyr yn cynnwys:
· gweithredu i safon uchel gan ddarparu'r profiad gorau posibl i deithwyr a chwmnïau awyrennau;
· creu amgylchedd sy'n hybu twf cwmnïau awyrennau a phartneriaid masnachol;
· manteisio ar y cyfle i'r eithaf er budd Cymru, yr economi a busnes;
· rheoli effaith amgylcheddol y maes awyr;
· sicrhau bod y maes awyr yn sefydlog yn ariannol;
· gwella cysylltedd i Gymru; a
· chefnogi Ardal Fenter Sain Tathan - Caerdydd.
9. Cynhyrchodd CIAL gynllun busnes ar gyfer 2013/14, a oedd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer gwelliannau cyfalaf a thechnegol yn y maes awyr. Mae'r gwelliannau i gyd wedi eu hanelu at roi gwell profiad i ddefnyddwyr y maes awyr, er enghraifft mae gan deithwyr bellach fynediad at wi-fi a throlïau am ddim yn y maes awyr.
10. Mae gwaith i gyflawni gwelliannau eraill yn mynd rhagddo’n dda a bydd wedi ei gwblhau cyn y tymor gwyliau prysur a digwyddiadau mawr fel Super Cup UEFA, Cwpan Heineken ac uwch-gynhadledd NATO. Ar ôl gorffen y gwaith bydd gan Faes Awyr Caerdydd:
· Ffordd dynesu well i drafnidiaeth ac ardal lle gellir gollwng a chasglu teithwyr am ddim
· Ardal Ymadawiadau/Diogelwch newydd well gyda’r dechnoleg ddiweddaraf
· Cyfleusterau toiled newydd
· Cyfleuster newydd ar gyfer archebu tacsis ac ardal aros o fewn y neuadd Cyraeddiadau
11. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru fenthyciad masnachol o £10 miliwn i alluogi CIAL i gyflawni'r cynllun busnes a gwelliannau.
12. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda CIAL i edrych ar synergeddau gweithredol rhwng CIAL a Pharc Busnes Awyrofod Sain Tathan.
Marchnata a Hyrwyddo
13.Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda CIAL i farchnata a hyrwyddo Cymru mewn cyrchfannau allweddol a chylchgronau 'wrth hedfan'. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda CIAL i hyrwyddo Cymru i gwsmeriaid allweddol ymysg cwmnïau hedfan ac i gyflwyno gweithgarwch Marchnata Croeso Cymru o fewn cyrchfannau priodol.
14. Yn ogystal â hyn, mynychodd Croeso Cymru a CIAL gynhadledd Llwybrau Byd 2013 a buont yn arddangos yno. Y bwriad oedd codi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru fel cyrchfan a thynnu sylw at y ffaith fod CIAL yn bwriadu datblygu cyfleuster maes awyr a chyrchfannau o ansawdd gyda'r nod o sefydlu twf tymor hir.
Mynediad at y Maes Awyr
15. Ar 1 Awst, 2013, cyflwynodd Llywodraeth Cymru wasanaeth bws cyflym newydd rhwng Canol Dinas Caerdydd a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu bob 20 munud drwy gydol y dydd. Cynhaliwyd adolygiad o'r gwasanaeth gan yr Athro Stuart Cole o Brifysgol De Cymru i nodi unrhyw ofynion cynnar am newid gweithredol.
16. Nododd yr adolygiad bod yr amcanion i sicrhau gwasanaeth cyflym ac aml rhwng canol y ddinas a'r maes awyr wedi cael eu bodloni. Cadarnhaodd yr adroddiad fod dibynadwyedd a phrydlondeb wedi bod yn dda, ac yn parhau i fod felly, a bod y gwasanaeth wedi sefydlu proffil uchel a hunaniaeth gref yn gyflym iawn. Gellir cael manylion am y gwasanaeth a'r adolygiad drwy'r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/transport/aviation-home/cdfair/cae/?lang=en
17. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i gefnogi gwasanaeth bws gwennol Maes Awyr Caerdydd sy'n rhedeg rhwng gorsaf drenau'r Rhws a'r maes awyr, gan gynnig dewis teithio cynaliadwy i deithwyr a gweithwyr ar gyfer teithio i'r maes awyr.
18. Mae mynediad ar y ffyrdd i Ardal Fenter Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan Transport ar y cyd â Chyngor Sir Bro Morgannwg. Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect sythu ffordd wrth Droadau Gilestone a fydd yn costio bron i £3 miliwn, er mwyn gwella mynediad i Ardal Fenter Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd.
Agwedd polisi Llywodraeth Cymru tuag at Hedfan
19. Mae ein hagwedd at hedfan yn holistig ac yn ymdrin â hedfan ar draws ei dolen gwerth gyfan. Ond mae'n bwysig deall bod Llywodraeth Cymru yn ystyried hedfan fel un llinyn yn unig o fewn ei strategaeth drafnidiaeth gyffredinol a'i hymgyrch barhaus i wella cysylltedd. Rydym yn ystyried awyrofod fel y gweithgaredd diwydiannol sy'n cefnogi'r diwydiant awyrennau, o ran cynhyrchu awyrennau a'u cynnal a'u cadw, a'u hatgyweirio a'u hadnewyddu wedi hynny. Y materion allweddol yw:
· Cryfder y sector awyrofod yng Nghymru fel canolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu awyrofod a gweithgareddau a sgiliau sy'n gysylltiedig â Chynnal a Chadw, Atgyweirio, ac Adnewyddu. Mae dros 20% o fusnes Chynnal a Chadw, Atgyweirio, ac Adnewyddu y DU eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru.
· Meysydd awyr a datblygu gwasanaethau awyr fel rhan hanfodol o'n seilwaith cenedlaethol ac fel sbardun economaidd a phorth i Gymru. Mae'r diwydiant awyrofod yn werth dros £5 biliwn i Gymru mewn Gwerth Ychwanegol Crynswth a 20,000 mewn swyddi.
20. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd papur interim ar hedfan sy'n amlinellu ac yn crynhoi ein polisi a'n dull presennol. Mae'r papur ar gael yn:
http://wales.gov.uk/topics/transport/aviation-home/?lang=en
21. Byddwn yn edrych eto ar hyn yng ngoleuni adroddiad interim Comisiwn Meysydd Awyr y DU, a gyhoeddwyd ychydig cyn diwedd y llynedd.